Canghellor yr Almaen, Angela Merkel
Mae Canghellor yr Almaen, Angela Merkel, wedi arwain rali yn erbyn gwrth-semitiaeth yn Berlin.
Dywedodd wrth filoedd o bobl bod bywyd Iddewon yn rhan o hunaniaeth yr Almaen.
Iddewon Berlin oedd wedi trefnu’r rali ym Mhorth Brandenburg yn y ddinas heddiw ar ôl i ddicter ynghylch ymosodiadau ar Gaza arwain at brotestiadau, sloganau a thrais gwrth-Iddewig yn yr Almaen a gwledydd eraill yn Ewrop.
Yn ôl un o’r trefnwyr, mae’r haf hwn wedi gweld y sloganau gwrth-semitig gwaethaf ar strydoedd yr Almaen ers llawer degawd.
Dywedodd Angela Merkel fod clywed am rieni Iddewig ifanc yn gofyn a allan nhw fagu eu plant yn yr Almaen, neu bobl hŷn yn gofyn a oedd yn iawn iddyn nhw aros, yn peri poen iddi.
“Mae arnon ni eisiau i Iddewon deimlo’n ddiogel yn yr Almaen,” meddai. “Fe ddylen nhw deimlo bod ein gwlad ni’n gartref i bawb ohonom.”