George Galloway, cyn AS Llafur sydd bellach yn AS Respect dros Orllewin Bradford
Os bydd yr Alban yn pleidleisio dros annibyniaeth ddydd Iau, ar y Blaid Lafur fydd y bai am hynny, yn ôl un o’i chyn-Aelodau Seneddol dros Glasgow.
Dywed George Galloway, sydd bellach yn AS Gorllewin Bradford dros y blaid Respect, fod Llafur yr Alban wedi ymladd ymgyrch ‘druenus’ dros gadw undod Prydain, a’i bod bellach ar ei gwely angau.
“O gyfnod Blair ymlaen, mae rhyfel Irac, y cwymp yn hygrededd y wladwriaeth Brydeinig, a’r job druenus, gwbl druenus, sydd wedi cael ei wneud gan arweinwyr Llafur yr Alban o amddiffyn perthynas 300 mlynedd oed ar yr ynys yma wedi bod yn boenus iawn imi,” meddai ar raglen The Politics Show y BBC.
Fel un sy’n ymgyrchu dros bleidlais Na ddydd Iau, dywedodd fod y nifer o bleidleiswyr Llafur sy’n bwriadu pleidleisio Ie yn ‘ofidus o uchel’.
“Mae’r ffordd y mae Llafur yr Alban wedi gwastraffu ei hetifeddiaeth gyfoethog yn gwbl anfaddeuol,” meddai.
Proffwydo pleidlais Ie o 60%
Ar yr un rhaglen, fe wnaeth yr ymgyrchydd dros annibyniaeth, Tommy Sheridan o’r blaid Solidarity, broffwydo pleidlais Ie o 60%.
“Mae momentwm nad ydych chi wedi’i weld yn stadau tai a phentrefi dosbarth gweithiol yr Alban,” meddai.
“Mae’r dosbarth gweithiol wedi cael hen ddigon o bobl yn eu cymryd yn ganiataol. Wedi cael llond bol o gelwyddau pobl sy’n eu llusgo i ryfeloedd anghyfreithlon, toriadau treth i filiwnyddion, treth llofftydd i’r tlodion. Anaml y maen nhw’n cael unrhyw rym. Maen nhw’n mynd i ddefnyddio’r grym ddydd Iau i bleidleisio dros ryddid.”