Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond
Dywed Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond’ fod y refferendwm ddydd Iau yn gyfle am annibyniaeth na ddaw ond unwaith mewn cenhedlaeth.

Wrth i’r arolygon barn awgrymu pleidlais agos iawn, dywedodd y byddai un bleidlais yn ddigon i ennill, ond mai ei nod oeddd ennill mwyafrif sylweddol.

Ar y llaw arall, dywedodd nad oedd yn rhagweld y byddai cyfiawnhad dros refferendwm arall am gyfnod hir iawn os bydd pleidlais Na.

“Fy marn i yw fod hyn yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth, efallai unwaith mewn oes, i’r Alban,” meddai.

Dywedodd hefyd fod gwaith eisoes ar y gweill i benodi tîm o arbenigwyr i drafod telerau â gweddill y Deyrnas Unedig os bydd pleidlais Ie ddydd Iau.