Bethan Gwanas
Yn hytrach na gwario ar gyfieithu nofelau i’r Gymraeg, mae angen gwario arian ar greu dwy fersiwn o nofel Gymraeg wreiddiol – un yn nhafodiaith y de, a’r llall yn nhafodiaith y gogledd.
Dyna un o awgrymiadau’r awdures Bethan Gwanas wrth iddi gyflwyno Darlith Goffa Islwyn Ffowc Elis yng Ngŵyl Golwg eleni.
Dywedodd Bethan Gwanas bod y dafodiaith mewn rhai llyfrau Cymraeg yn ei gwneud hi’n anodd i ddarllenwyr fwynhau’r stori tu ôl i’r geiriau, yn enwedig mewn llyfrau plant.
“Mae’r iaith yn broblem mewn rhai llyfrau. Mae tafodiaith yn cael effaith ar bobol ac weithiau’n eu gwneud nhw roi’r llyfr i lawr.”
“Mae’r holl bres ’ma yn cael ei wario ar gyfieithiadau – ond oni fasa hi’n well defnyddio’r pres i greu dwy fersiwn Gymraeg?
“Dwi’n meddwl basa Islwyn yn dweud ‘Amen’ i hynny.”
Nofelau plant
Yn ogystal â dweud bod angen llai o gyfieithu i’r Gymraeg, dywedodd Bethan Gwanas bod angen rhoi mwy o barch i awduron llyfrau plant:
“Os ydach chi’n awdur sy’n sgwennu llyfr i oedolion fe gewch chi £8000 – £10,000, ond mi geith awdur llyfr plant tua £800. Mae pobol yn mynd i feddwl nad ydy o werth rhoi’ch amser i sgwennu llyfrau plant.”
“Mae angen mwy o barch i nofelau plant gwreiddiol. Ac mae angen mwy o awduron o wahanol ardaloedd hefyd.
“Mae rhai’n credu nad ydy llenyddiaeth i fod yn hawdd … ond mi faswn i’n mynd mor bell â dweud, bod llenyddiaeth hawdd yn bwysicach ar gyfer dyfodol yr iaith Gymraeg.”