Kashmir
Mae arbenigwyr milwrol wedi bod yn ffrwydro argaeau yng nghanolbarth Pacistan er mwyn dargyfeirio afonydd gorlawn a cheisio arbed dinasoedd rhag llifogydd sydd eisoes wedi lladd bron i 500 o bobl.
Mae rhanbarth Kashmir yn yr Himalayas, sydd wedi ei rannu rhwng India a Pacistan, wedi dioddef y llifogydd gwaethaf ers 50 mlynedd dros y pythefnos ddiwethaf.
Mae milwyr Pacistan wedi bod yn defnyddio hofrenyddion a chychod i achub pobl sydd wedi colli eu cartrefi ac i ollwng bwyd o’r awyr.