Mae Heddlu’r De yn apelio am dystion i wrthdrawiad angheuol a ddigwyddodd ym Mhontypridd ychydig cyn 6 o’r gloch fore Iau.
Fe fu farw cerddwr ar ôl cael ei daro gan gar Audi A3 glas y tu allan i’r Morning Star ar Ffordd Llantrisant yn y dref.
Mae’r heddlu eisoes wedi siarad gyda gyrrwr y car, ond maen nhw’n awyddus i siarad hefyd gydag unrhyw dystion a welodd y cerddwr a oedd yn sefyll yn y ffordd cyn y gwrthdrawiad.
Maen nhw’n apelio’n benodol ar bwy bynnag a oedd yn teithio mewn car bach i fyny Ffordd Llantrisant i gyfeiriad Beddau tua’r adeg y digwyddodd y gwrthdrawiad. Er nad oedd y cerbyd hwn yn rhan o’r gwrthdrawiad, cred yr heddlu y gallai’r sawl a oedd yn teithio ynddo fod wedi gweld rhywbeth.
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu ag Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol Heddlu De Cymru ar 101 neu eu gorsaf heddlu leol gan ddyfynnu cyfeirnod 1400 338 280.