Arweinydd Ukip, Nigel Farage
Mae’r Prif Weinidog wedi gwneud llanast llwyr o bethau trwy wrthod y dewis o fwy o bwerau i’r Alban yn y refferendwm, yn ôl arweinydd Ukip, Nigel Farage.

Wrth siarad mewn rali yn Glasgow ddoe, fe wnaeth Nigel Farage gyhuddo David Cameron o fod mor drahaus â’r Brenin Edward II, y Sais a gafodd ei drechu gan yr Albanwyr ym mrwydr Bannockburn yn 1314.

“Mae Salmond wedi bod yn ffodus, yn ffodus iawn, gyda’i elynion, yn enwedig y criw Better Together,” meddai. “Mae’r dynion llwyd o San Steffan wedi methu â chreu argraff ar neb.

“Does gen i ddim amheuaeth o gwbl petai ‘devo max’ ar y papur pleidleisio y byddai wedi sicrhau mwyafrif clir o’r pleidleisiau.

“Trwy benderfyniad David Cameron a gwendid yr ymgyrch, mae’r undeb [y Deyrnas Unedig] wedi wynebu’r bygythiad mwyaf ers ei sefydlu 300 mlynedd yn ôl.”

Galw am help y Frenhines

Yn gynharach, roedd Nigel Farage wedi galw ar y Frenhines i wneud datganiad cyhoeddus i gefnogi undod y Deyrnas.

Dywedodd fod ganddi gyfrifoldeb i godi ei llais os yw’r Deyrnas Unedig o dan fygythiad.