Boris Johnson, Maer Llundain
Mae Maer Llundain, Boris Johnson, wedi wedi ei ddewis yn ymgeisydd seneddol dros y Torïaid yn etholaeth Uxbridge and South Ruislip.
Gyda mwyafrif Torïaidd o dros 11,000 yn yr etholiad diwethaf, mae’r gwleidydd lliwgar a dadleuol gam sylweddol yn nes at ddychwelyd i San Steffan.
Fe fu’n Aelod Seneddol Henley am saith mlynedd cyn iddo gael ei ethol yn Faer Llundain yn 2008.
Dywedodd ei fod wrth ei fodd o gael ei ddewis yn ymgeisydd, a mynnodd y bydd yn gallu cyflawni’r ddwy swydd o Aelod Seneddol a Maer Llundain rhwng yr etholiad cyffredinol nesaf a’r adeg y daw ei dymor fel Maer i ben yn 2016.
“Mae hyn wedi cael ei wneud o’r blaen a wela’ i ddim rheswm pam na ddylai ddigwydd eto,” meddai.
“Mae’n bosibl bod yn Aelod Seneddol a dal swydd fawr iawn fel ysgrifennydd tramor neu brif weinidog ar yr un pryd.”
Mae ei wrthwynebwyr gwleidyddol, o’i blaid ei hun a phleidiau eraill, wedi honni mai ei wir gymhellion wrth geisio dychwelyd i’r senedd fydd disodli David Cameron fel arweinydd y Blaid Geidwadol.