Y pryder yw bod y gweithiwr elusen yn nwylo eithafwyr Islamic State, sydd i'w gweld yma'n tanio at filwyr Irac ym mis Mehefin (llun: PA)
Mae teulu gweithiwr elusen a gafodd ei herwgipio yn Syria ym mis Mawrth y llynedd wedi apelio ar y rhai sy’n ei ddal i gysylltu â nhw.
Yr amheuaeth yw bod yr Albanwr David Haines, 44 oed, yn cael ei ddal yn wystl gan eithafwyr Islamic State, sydd wedi bygwth ei ladd.
Mae’r eithafwyr Islamaidd eisoes wedi dienyddio dau newyddiadurwr o America, ac wedi profi hynny trwy ddangos ffilmiau ar y we o’u pennau’n cael eu torri i ffwrdd.
Dywed teulu David Haines mewn datganiad sydd wedi cael ei ryddhau gan y Swyddfa Dramor:
“Ni yw teulu David Haines.
“Rydym wedi anfon negeseuon atoch nad ydym wedi derbyn ateb iddynt. Rydym yn gofyn i’r rheini sy’n dal David gysylltu â ni.”