Tudalen flaen y Western Mail heddiw (o wefan y cwmni)
Mae’r papur sy’n galw’i hun yn ‘bapur cenedlaethol Cymru’ yn neilltuo’i dudalen flaen i gyd heddiw i apelio ar bobl yr Alban i bleidleisio yn erbyn annibyniaeth.

O dan y pennawd ‘Don’t Go’, mae’n rhoi ei resymau pam y mae’n credu y dylai pobl ‘cenedl ddewr, cyfoethog a hyderus’ yr Alban aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig:

“Byddai Teyrnas Unedig heb yr Alban wedi ei thlodi’n ddiwylliannol, yn wleidyddol ac yn economaidd. Mae’n anochel y byddai Lloegr, gyda phoblogaeth o 53 miliwn yn tra-arglwyddiaethu gwlad lle byddai blaenoriaethau dinas Llundain yn cael mwy fyth o ddylanwad ar ei bywyd cenedlaethol.

“Byddai Teyrnas Unedig fel mis Rhagfyr heb Nadolig, y Gelli heb lyfrau, Eisteddfod heb farddoniaeth, neu Dŵr Llundain heb emau’r goron.

“Mae pobl Cymru’n barod i ymuno â’u cyfeillion o’r Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon i weithio i ad-drefnu’r Deyrnas Unedig er mwyn sicrhau bod chweched economi fwyaf y byd yn rym er daioni ar lwyfan y byd ac yn rym dros gynnydd cymdeithasol.”

Mae’r Western Mail yn gwerthu tua 23,000 o gopïau bob dydd, bron y cyfan ohonynt mewn ardaloedd o fewn de a de-orllewin Cymru.