Ar drothwy Gŵyl Golwg y penwythnos yma, rydyn ni wedi bod yn parhau i rannu rhai o’r clipiau fideo a chyfweliadau sydd wedi bod ar Ap Golwg yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gyda chi.

Heddiw mae gennym ni rai o gyfweliadau chwaraeon y flwyddyn, gan gynnwys sgyrsiau â phêl-droedwyr Cymru Ben Davies ag Owain Tudur Jones, y gyrrwr rali Elfyn Evans, a’r sêr karate ifanc Meleri Pryse a Steven Bailey.

Bydd y rheiny ohonoch sydd yn lawrlwytho Ap Golwg i’ch teclynnau electronig bob wythnos eisoes yn gyfarwydd â rhai o’r clipiau fideo, cyfweliadau a thraciau sain, ac orielau lluniau ychwanegol sydd yn dod fel rhan o’r rhifynnau hynny.

Ond i’r rheiny ohonoch sydd ddim yn gyfarwydd â’r cynnwys ychwanegol sydd ar gael ar yr Ap, dyma gyfle i chi gael cip ar beth rydych chi wedi’i fethu dros y flwyddyn ddiwethaf.

Ddoe roedd naws wleidyddol i’r cyfweliadau, gyda sgyrsiau â gwleidyddion Llafur a Plaid Cymru o’u cynhadleddau gwanwyn, a chyfweliadau â rhai o gyfranwyr Cynhadledd Weithredol Cymdeithas yr Iaith.

Dydd Mercher cafwyd cyfweliadau â Sion Jobbins, Gwenllian Lansdown Davies, Phyllis Price a Dylan Rowlands.

Dyma’r fideos chwaraeon i chi heddiw:

Ben Davies – Cymru v Gwlad yr Ia

Sgwrs â chefnwr Abertawe sydd bellach wedi symud i Tottenham, cyn gêm Cymru yn erbyn Gwlad yr Ia ym mis Mawrth.

Mae Davies yn rhoi ei farn ar y grŵp Ewro 2016 oedd newydd gael ei ddewis, gyda’r ymgyrch wedi dechrau’r wythnos hon yn Andorra.

Owain Tudur Jones – Cymru v Ffindir

Un arall o gemau cyfeillgar Cymru, y tro hwn yn erbyn Ffindir, ac mae Owain Tudur Jones yn siarad â Golwg ar ôl y gêm a orffennodd yn 1-1.

Elfyn Evans – Pencampwriaeth Rali’r Byd

Sgwrs ag Elfyn Evans cyn dechrau’r flwyddyn yn edrych ymlaen at ei dymor cyntaf ym Mhencampwriaeth Rali’r Byd – mae’n gwneud yn wych ar hyn o bryd ac yn seithfed yn y bencampwriaeth ar ôl naw o’r 14 ras.

Meleri Pryse a Steven Bailey – karate Cymru

Sgwrs â Meleri a Steven o glwb karate Aberystwyth yn gynharach eleni, ar ôl i’r ddau ohonyn nhw ddychwelyd o Bencampwriaethau Ewrop gyda Chymru, a Meleri wedi cipio dwy fedal.