Bydd y Scarlets yn chwarae yn erbyn y pencampwyr Leinster ar yr RDS yfory yn ail rownd y Guinness Po 12.
Gobaith y Scarlets yw adeiladu ar y perfformiad a gafwyd yn erbyn Ulster ar Barc y Scarlets a oedd yn cynnwys pedwar cais. Bydd Liam Williams yn dechrau fel cefnwr ar ôl cael ei glirio o unrhyw waharddiad yn dilyn drwy garden felen yn erbyn Ulster.
Daw Gareth Owen i’r canol gyda Scott Williams yn lle Regan King sydd wedi ei anafu. Jordan Williams fydd yn dechrau ar yr asgell gan fod Michael Tagicakibu wedi ei anafu. Yr unig newid ymysg y blaenwyr yw Aaron Shingler yn dechrau a Rob McCusker yn gorfod bodloni ar le ar y fainc.
‘‘Fe ddylai’r gêm dydd Sadwrn yn erbyn Leinster fod yn gyfle da i ni brofi ein hunain yn erbyn tîm da iawn mewn gêm i ffwrdd o adref. Mae angen i ni ganolbwyntio a gwneud pethau’n iawn. Mae yna welliant mawr i ddod yn y tîm yma,’’ meddai Prif Hyfforddwr y Scarlets, Wayne Pivac.
‘‘Mae pob chwaraewr rygbi yn hoffi chwarae o flaen torf fawr. Gyda thorf dda bydd y perfformiad yn codi,’’ ychwanegodd Pivac.
Fe gollodd Leinster o un pwynt i Glasgow y penwythnos diwethaf.
Tîm y Scarlets
Olwyr – Liam Williams, Harry Robinson, Gareth Owen, Scott Williams, Jordan Williams, Rhys Priestland a Rhodri William.
Blaenwyr – Phil John, Ken Owens (Capten), Rhodri Jones, Jake Ball, Johan Snyman, Aaron Shingler, John Barclay a Rory Pitman.
Eilyddion – Emyr Phillips, Rob Evans, Peter Edwards, Richard Kelly, Rob McCusker, Aled Davies, Steven Shingler ac Adam Warren.