Bydd y clo o Seland Newydd Jarrad Hoeata yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf i’r Gleision yn erbyn Glasgow Warriors yn y Guinness Pro 12 am bedwar o’r gloch b’nawn Sul.

Fe ymunodd Hoeata â’r rhanbarth dros yr haf o glwb yr Highlanders yn y Super Rugby ac mae’n un o dri newid wnaeth y Cyfarwyddwr Rygbi Mark Hammett i’r tîm.

Bydd cyn gapten saith bob ochr Cymru Adam Thomas yn dechrau fel cefnwr gyda Dan Fish yn symud i’r asgell.  Fe wnaeth Thomas gynrychioli’r rhanbarth yng Nghwpan yr LV yn 2011.

Daw Lewis Jones i’r tîm yn fewnwr ac yn bartner i Rhys Patchell a gafodd gêm wych yn erbyn Zebre gan sgorio 21 o bwyntiau.

Mae Taufa’ao Filise, Richard Smith a Scott Andrews yn dechrau ar y fainc.  Os y caiff Andrews gyfle i ddod ar y cae dyma fydd ei ganfed ymddangosiad dros y clwb.

‘‘Mae’r chwaraewyr a’r tîm hyfforddi yn edrych ymlaen at y gêm gyntaf adref ac yn gobeithio adeiladu ar y fuddugoliaeth yn erbyn Zebre.  Mae’n bwysig ein bod yn sicrhau bod pob tîm sy’n ymweld a mi yn ei chael yn anodd yma.  Mae’n rhaid i’r garfan gyfan sicrhau hynny,’’ meddai Hammett.

Tîm y Gleision

Olwyr – Adam Thomas, Alex Cuthbert, Cory Allen, Gavin Evans, Dan Fish, Rhys Patchell a Lewis Jones.

Blaenwyr – Sam Hobbs, Matthew Rees (Capten), Adam Jones, Jarrad Hoeata, Filo Paulo, Josh Turnbull, Sam Warburton a Manoa Vosawai.

Eilyddion – Kristian Dacey, Taufa’ao Filise, Scott Andrews, Macauley Cook, Josh Navidi, Lloyd Williams, Gareth Davies a Richard Smith.