Mae ffrwydradau ar gyrion dinas Donetsk yn nwyrain yr Wcrain wedi arwain at bryderon am barhad y cadoediad y cytunwyd arno ddeuddydd yn ôl.

Roedd y ffrwydradau, a ddigwyddodd o gwmpas y maes awyr, i’w clywed yng nghanol y ddinas y bore yma.

Donetsk yw’r ddinas fwyaf sydd yn nwylo’r gwrthryfelwyr, ac mae wedi bod yng nghanol y brwydro rhwng lluoedd y llywodraeth a’r gwrthryfelwyr sy’n ceisio cysylltiadau agosach â Rwsia a thorri’n rhydd oddi wrth weddill yr Wcrain.

Mae’r maes awyr o dan reolaeth lluoedd y llywodraeth ers mis Mai, ond mae’n wynebu ymosodiadau cyson gan y gwrthryfelwyr.