Mae un o farnwyr mwyaf blaenllaw Prydain yn dweud bod yn rhaid i lysoedd dorri i lawr ar waith papur a symud i’r oes ddigidol.
Dywed yr Arglwyddes Ustus Gloster, sy’n eistedd ar y Llys Apêl, fod y pentyrrau o ddogfennau sy’n cael eu defnyddio mewn achosion yn debyg i’r oedden nhw pan gychwynnodd ar ei gyrfa gyfreithiol dros 40 mlynedd yn ôl.
Mae’n hen bryd i bethau newid, yn ôl y barnwr 65 oed.
Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder eisoes wedi cyhoeddi y bydd rhai newidiadau’n digwydd.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Chris Grayling yn gynharach eleni y bydd cannoedd o filynau’n cael ei wario dros y blynyddoedd nesaf ar ddiweddaru technoleg mewn llysoedd.