Y ffensys a gafodd eu defnyddio yng Nghaerdydd ar gyfer cynhadledd Nato yr wythnos ddiwethaf (llun: Iolo)
Mae’r ffensys sydd wedi bod yn diogelu arweinwyr Nato yng Nghasnewydd a Caerdydd yr wythnos ddiwethaf am gael eu hanfon i borthladd Calais yn Ffrainc.

Fe fyddan nhw’n cael eu defnyddio yno i geisio cadw mewnfudwyr anghyfreithlon allan o Brydain.

Dywed y gweinidog mewnfudo James Brokenshire y bydd y ffensys yn cymryd lle’r rhwystrau ‘annigonol’ sydd yno ar hyn o bryd.

Gyda nifer cynyddol o ymfudwyr yn heibio i Calais, roedd maer y ddinas wedi apelio i Brydain am help i geisio datrys yr anhrefn sy’n digwydd yn gyson yno.

Y gobaith yw y bydd y ffensys newydd yn creu lle parcio diogel i deithwyr cyfreithlon lle na fydd darpar fewnfudwyr anghyfreithlon yn gallu amharu arnyn  nhw.