Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru (o wefan Plaid Cymru)
Dywed arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, mai ei gobaith yw y bydd yr Alban yn sicrhau dyfodol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol trwy bleidleisio dros annibyniaeth ar 18 Medi.

Ar drothwy ymweliad â’r Alban i gefnogi’r ymgyrch dros annibyniaeth, dywedodd Leanne Wood fod Cymru’n falch o fod yn fan geni’r Gwasanaeth Iechyd, a gafodd ei sefydlu gan y gwleidydd Llafur Aneurin Bevan yn 1948.

“Cafodd Aneurin Bevan ei ysbrydoliaeth dros ofal iechyd am ddim i bawb yn ei dref enedigol yng nghymoedd Cymru lle deuai glowyr at ei gilydd i gyfrannu er mwyn sicrhau gofal i’r gymuned,” meddai.

“Mae’r rhain yn dal i fod yn werthoedd modern yn ein hoff wasanaethau iechyd yng Nghymru a’r Alban.

“Yn Lloegr maen nhw wedi penderfynu dilyn model sy’n seiliedig ar breifateiddio, ond gallai hynny gael effeithiau sylweddol ar Gymru a’r Alban.

“Mae’n gwbl annemocrataidd fod pobl yng Nghymru a’r Alban yn ethol llywodraethau sy’n dymuno gadw gwasanaethau cyhoeddus mewn dwylo cyhoeddus ond bod hyn yn cael ei wyrdroi yn San Steffan.

“Gallai 18 Medi fod y diwrnod pwysicaf yn hanes y Gwasanaeth Iechyd yn yr Alban ers iddo gael ei greu bron i 70 mlynedd yn ôl.”