Lai na phythefnos i fynd tan y refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban, mae arolwg barn wedi dangos yr ochr ‘Ie’ ar y blaen am y tro cyntaf.
Yn ôl yr arolwg gan YouGov sy’n cael ei gyhoeddi yn y Sunday Times heddiw, roedd 47% o’r rhai a holwyd o blaid annibyniaeth, o gymharu â 45% yn erbyn.
O ddiystyru’r rhai nad ydyn nhw wedi penderfynu neu nad ydyn nhw’n bwriadu pleidleisio, byddai’r canlyniad yn gyfystyr â 51% o blaid a 49% yn erbyn.
Mae’n awgrymu newid anferthol yn y farn gyhoeddus yn yr Alban, gan fod arolygon tebyg yn rhoi’r ochr ‘Na’ ar y blaen o 22% tua mis yn ôl.
Mae arolwg arall hefyd – gan Panelbase – yn cadarnhau’r newid yn y farn gyhoeddus, ac yn darogan canlyniad agos, er bod hwnnw’n rhoi’r ochr ‘Na’ ar y blaen o 52% i 48%.
Brwydr hynod agos
Wrth ymateb i’r arolwg diweddaraf, mae’r ddwy ochr yn gytûn fod y frwydr ar gyfer y refferendwm ar 18 Medi am fod yn un hynod o agos.
Meddai Diprwy Brif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon:
“Mae’r rhain yn ffigurau hynod o gadarnhaol a chalonogol.
“Mae gan gefnogwyr annibyniaeth lawer o waith i’w wneud ar y 18fed – dydyn ni ddim yn ffefrynnau i ennill – ond gallwn edrych ymlaen at 10 diwrnod olaf yr ymgyrch gyda brwdfrydedd a hyder.”
Meddai arweinydd yr ochr ‘Na’, Alistair Darling:
“Rhaid i’r arolygon barn ddeffro pawb a oedd am gymryd canlyniad y refferendwm yn ganiataol.
“Mae’r neges yn glir: Os oes arnoch eisiau i’r Alban barhau’n aelod o deulu’r Deyrnas Unedig rhaid ichi bleidleisio dros hynny ar 18 Medi.”
Mewn erthygl yn y Sunday Mirror, mae’r cyn brif weinidog Gordon Brown yn cyfaddef fod brwydr y refferendwm yn galetach nag oedd llawer wedi ei ragweld, ac mae’n beio polisïau amhoblogaidd y Torïaid.
‘Pryder’ y Frenhines
Mae’r un arolwg barn gan YouGov yn dangos y byddai ar 54% o bobl yr Alban eisiau i’r Frenhines aros yn bennaeth ar y wladwriaeth petai annibyniaeth yn digwydd. Mae hyn yn cymharu â 31% a fyddai o blaid arlywydd etholedig.
Er nad yw’r Frenhines yn mynegi unrhyw safbwynt swyddogol ar annibyniaeth i’r Alban, dywed y Sunday Times, ei bod yn ‘hynod bryderus’ ynghylch canlyniad y refferendwm.
Mae’r papur newydd yn dyfynnu ffynhonnell o Balas Buckingham sy’n dweud bod y Frenhines yn unoliaethwraig i’r carn ac yn mynnu adroddiadau dyddiol ar y sefyllfa.