Mae llywodraeth Syria wedi lawnsio cyfres o ymosodiadau ar y grwp eithafol, Islamic State, heddiw, gan ladd 25 o bobol.
Fe fu’r rhan fwya’ farw pan darodd taflegryn fecws prydus yn ninas Raqqa yng ngogledd-ddwyrain y wlad.
Fe gafodd wyth taflegryn eu tanio i gyd. Fe laddwyd 16 o bobol ddiniwed, ochr yn ochr â naw o ymladdwyr IS.
Ymhlith y meirwon yr oedd wyth aelod o’r un teulu.
Ar wahân i’r becws, fe gafodd hen swyddfa ariannol ei thargedu – adeilad y mae IS wedi bod yn ei ddefnyddio fel pencadlys, ynghyd ag adeilad arall oedd yn cael ei ddefnyddio fel carchar gan y mudiad.