Mae’n ymddangos fod y cadoediad rhwng lluoedd yr Wcrain, Rwsia a gwrthryfelwyr yn dal i fod mewn grym heddiw, a hynny wedi pum mis o ymladd ffyrnig a gwaedlyd.

Fe syrthiodd y gynnau’n fud ar draws dwyrain Wcrain ddoe, wedi i’r cytundeb gael ei arwyddo gan y tair ochr. Er hynny, roedd ymateb yr Unol Daleithiau yn un amheus, wrth i Barack Obama fethu credu y byddai Rwsia yn rhoi’r gorau i’w hymgyrch filwrol yn erbyn sofraniaeth yr Wcrain.

Fe gadarnhaodd arlywydd yr Wcrain, Petro Poroshenko, iddo orchymyn lluoedd ei wlad i roi’r gorau i ymladd am 6yh (amser lleol) neithiwr, wedi i’r cytundeb gael ei arwyddo ym mhrifddinas Belarws, Minsk.

Fe ddaeth gorchymyn tebyg gan arweinwyr y gwrthryfelwyr.

Meddai Mr Poroshenko, fe ddaeth y cadoediad i fod “wedi trafodaeth hir gydag arlywydd Rwsia, Vladimir Putin”.

Mae’r tair ochr yn y brwydro wedi cytuno hefyd i symud arfau mawr, a cherbydau rhyfel, o’r ardal, yn ogystal a rhyddhau carcharorion rhyfel. Maen nhw hefyd wedi cytuno i ganiatau i gymorth dyngarol gael ei ddelifro i ddinasoedd sydd wedi’u chwalu gan y cwffio yn nwyrain Wcrain.