Mae bachgen 14 oed a gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, wedi cael ei ryddhau ar fechniaeth yr heddlu.
Mae Heddlu’r West Midlands wedi cadarnhau fod y bachgen yn ei arddegau, a gafodd ei arestio ddydd Iau yn Birmingham, wedi cael ei ryddhau tra bod yr ymchwiliad yn parhau.
Fe ddaethpwyd o hyd i gorff menyw 48 oed yn y stryd yn Smethwick, toc cyn hanner nos, ddydd Mercher.