Wythnos i heddiw, ychydig o ddyddiau cyn refferendwm yr Alban ar annibyniaeth, bydd pobl o ledled Cymru – ac o ystod o safbwyntiau gwleidyddol – yn dod at ei gilydd i Gaerdydd er mwyn danfon neges glir at y pleidleiswyr: “Ewch Amdani’r Alban!”

Trefnir y digwyddiad gan ‘Cymru’n cefnogi IE – Ewch Amdani Alban’, digwyddiad heb unrhyw gysylltiad â phlaid arbennig.

Bydd y siaradwyr yn cynnwys Leanne Wood, Arweinydd Plaid Cymru; Pippa Bartolotti, Arweinydd Plaid Werdd Cymru; Y Cynghorydd Llafur Ray Davies o Gyngor Caerffili; ac Amy Kitcher, cyn-ymgeisydd Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol.

Hefyd yn siarad bydd dau lais o’r Alban Jamie Wallace, Aelod o’r SNP, ac un o sylfaenwyr y‘National Collective’, Andrew Redmond Barr; ynghyd a chynrychiolwyr cymunedol eraill o Gymru a negeseuon o gefnogaeth gan ymgyrchwyr ar lawr gwlad a phobl yn yr Alban.

Bydd hefyd adloniant byw yn ystod y digwyddiad, gyda’r nod o greu awyrgylch o ddathlu cadarnhaol.

Dros yr wythnosau diwetha’ cafwyd newid yn y gefnogaeth yn yr Alban i annibyniaeth. Mae pól diweddaraf YouGov yn dangos bod y mantais oedd gan y bleidlais “Na” wedi’i lleihau i 6 phwynt yn unig, gyda’r bleidlais “Ie” wedi codi i 47% ac yn brysur nesau at y bleidlais na sydd ar 53%.