Mae glaw trwm wedi taro Kashmir gan greu llifogydd a thirlithriadau sydd wedi lladd o leia’ 80 o bobol yn ardal yr Himalayas.
Lladdwyd 36 o bobol eraill yn Punjab sef rhanbarth dwyreiniol Pacistan.
Mae disgwyl mwy o lifogydd uchel iawn dros y penwythnos, ac mae afonydd eisoes wedi gorlifo gan ddinistrio cannoedd o gartrefi.
Ddydd Iau cafodd bws yn cludo 50 o bobol i barti priodas ei sgubo lawr afon wedi gorlifo. Mae pedwar o gyrff wedi eu canfod tra bo pedwar o’r teithwyr wedi nofio at y lan yn ddiogel. Nid yw’n hysbys beth yw hanes y gweddill.
Dyma’r llifogydd gwaethaf yn yr ardal ers dau ddegawd.
Mae tymor y monsŵn yn para drwy fis Medi yn India a Phacistan.