Mae aelodau Nato wedi cytuno i gynyddu’u gwariant milwrol wrth i’r gynhadledd ddod i ben yng Nghasnewydd, yn ôl yr ysgrifennydd cyffredinol Anders Fogh Rasmussen.
Bydd y 28 gwlad sydd yn aelodau o Nato nawr yn ymrwymo i geisio sicrhau bod o leiaf 2% o wariant eu gwledydd yn cael ei wario ar amddiffyn.
Daw’r cytundeb ar ddiwedd un o’r cynadleddau Nato mwyaf arwyddocaol ers blynyddoedd, wrth i’r gynghrair drafod yr argyfyngau milwrol yn yr Wcráin a’r Dwyrain Canol.
Heddiw fe ddywedodd arlywydd yr Wcráin, sydd wedi dod i’r gynhadledd fel ‘partner’ i Nato yn hytrach nag aelod, fod cadoediad wedi’i arwyddo rhwng lluoedd ei wlad a’r gwrthryfelwyr Rwsiaidd fydd yn dechrau’r prynhawn yma.
Yn ôl Anders Fogh Rasmussen, roedd ymddygiad Rwsia yn Nwyrain Ewrop a’r brawychwyr treisgar Islamaidd yn y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica’n fygythiad i heddwch yn Ewrop.
Fe fyddai gwledydd Nato, meddai, yn “symud tuag at ganllawiau Nato o wario 2% o GDP ar amddiffyn” dros y “ddegawd nesaf”.
Fe gadarnhaodd Rasmussen hefyd fod Nato’n paratoi llu arfog fyddai’n medru paratoi i anfon miloedd o filwyr o fewn dyddiau, petai argyfwng yn codi.
Bydd Nato’n cryfhau ei phresenoldeb yn nwyrain Ewrop er mwyn ceisio gwrthsefyll unrhyw gamau pellach gan Rwsia, a cheisio amddiffyn aelodau Nato yn y Baltig gan gynnwys Estonia, Latvia a Lithuania.