Obama
Mae Barack Obama o America ac Angela Merkel o’r Almaen ymysg 50 o wladweinwyr fydd yn cael cudynnau cynnyrch Cymreig ar derfyn eu hymweliad â’r de.

Cyfrannodd 25 o fusnesau Cymru wahanol eitemau gan gynnwys cyfrifiadur Raspberry Pi maint cerdyn credyd a wneir ym Mhen y Bont, peli’r Undeb Rygbi, cyfrolau o farddoniaeth Dylan Thomas, sanau gwlân, wisgi Penderyn a llun mewn ffrâm o Bont Trafnidiaeth Casnewydd.

O fewn y cudynnau cynnyrch Cymreig mae neges gan David Cameron yn dweud ei fod yn “gobeithio y byddwch yn mwynhau pob un o’r anrhegion hyn a chael eich ysbrydoli ganddyn nhw i ddarganfod popeth sydd gan Gymru i’w chynnig.”