Mae BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru wedi cyhoeddi y byddan nhw’n lansio cronfa newydd o £100,000 i’w ddosbarthu i artistiaid cerddorol ifanc.

Mae’r gronfa Lawnsio yn rhan o brosiect Gorwelion sydd eisoes ar waith, prosiect a lansiwyd eleni gyda’r bwriad o roi llwyfan i artistiaid presennol.

Ymysg artistiaid ddewiswyd ar gyfer Gorwelion eleni roedd nifer o enwau adnabyddus yn y sin Gymraeg, gan gynnwys Casi Wyn, Kizzy Crawford, Candelas, Sŵnami, Plu a Chris Jones.

Ond mae’n ymddangos fod cronfa ariannol Lawnsio wedi’i hanelu fwy at gerddorion sydd yn y broses o geisio gwneud eu henw.

“Ry’n ni eisiau clywed gan fandiau ac artistiaid sy’ megis dechrau eu gyrfaoedd ac angen ‘chydig o hwb,” meddai Bethan Elfyn, Rheolwr Prosiect Gorwelion.

“Efallai eich bod chi’n artist sydd wedi cael cyfle i fynd ar daith, ond yn methu talu costau fan, neu eich bod wedi cael adborth positif ar eich demo ond eisiau recordio’n broffesiynol. Mae’r gronfa Lansio i chi.”

Amodau

Fe fydd y gronfa’n bodoli am ddwy flynedd, gan ddosbarthu hyd at £2,000 i 50 o artistiaid o Gymru.

Fodd bynnag, mae’n rhaid i’r artistiaid a’r bandiau fyw yng Nghymru a bod yn “ysgrifennu, cynhyrchu ac yn perfformio cerddoriaeth gyfoes boblogaidd a gwreiddiol”.

Yn ogystal â hynny, mae’n rhaid bod eu cerddoriaeth eisoes wedi cael ei chwarae ar BBC Radio Cymru neu BBC Radio Wales.

“Ar hyn o bryd mae yna dwf mawr ym mhoblogrwydd cerddoriaeth Gymreig ac mae’r bartneriaeth yma gyda BBC Cymru yn dangos ein hymrwymiad i gefnogi rhagoriaeth gerddorol ar draws Cymru,” meddai Lisa Matthews o Gyngor Celfyddydau Cymru.

“Bydd cronfa Lansio yn helpu bandiau ac artistiaid talentog i ddatblygu eu gyrfaoedd drwy roi’r gefnogaeth ariannol sydd ei angen arnynt.”

Dyddiad cau ceisiadau ydi hanner nos, nos Lun 3 Tachwedd, 2014, ac mae rhagor o wybodaeth ar wefan bbc.co.uk/gorwelion.