Joan Rivers yn perfformio yn Llundain (Udderbelly CCA 2.0)
Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i’r ddigrifwraig o America, Joan Rivers, a fu farw yn 81 oed.

A hithau’n enwog am ei hiwmor miniog, mae hi wedi cael ei disgrifio fel “doniol a dewr” gan ei chyd-ddigrifwyr a’i ffrindiau.

Roedd hi wedi bod yn gweithio ym myd teledu ers hanner canrif, ar sioeau fel Fashion Police ac In Bed With Joan.

Roedd hi wedi trafod ei marwolaeth ei hun ar sioe sgwrsio, gan ddychmygu marw yn y fan a’r lle.

Roedd perfformiadau eraill yn ymwneud â phroblemau merched, agweddau dynion at ryw a thriniaeth blastig – roedd hi ei hun yn dweud ei bod wedi cael ei hail-adeiladu bron yn llwyr.

Trawiad

Fe gafodd drawiad ar y galon ddydd Iau diwethaf ac fe aed a hi i Ysbyty Mount Sinai yn Efrog Newydd ond fe waethygodd ei chyflwr, a bu farw am tua 1 o’r gloch bnawn ddoe. Mae’n gadael un ferch ac ŵyr.

Mewn teyrnged, dywedodd y canwr, Boy George: “Hwyl fawr i’m ffrind Joan Rivers. Roeddech yn rhan fawr o’m bywyd personol ac fe wnaethoch oleuo’r gorwel gyda’ch hyfdra.”

Ac fe ddywedodd y cyflwynydd teledu Larry King: “Gwestai, ffrind, digrifwr a mam arbennig. Welwn ni fyth weld ei thebyg.”