Cerys Matthews, un o feirniaid y wobr eleni
Mae llyfr gan y bardd, awdur a’r sgriptiwr o Gymru, Owen Sheers, ymysg y 7 o lyfrau eraill sydd wedi ennill eu lle ar restr fer Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas ynghyd a’r cyfle i ennill £30,000.
Mae’r wobr yn cael ei hystyried y wobr uchaf ei bri i awduron ifanc sy’n sgwennu yn y Saesneg. Ac eleni, mae’r gystadleuaeth yn cael ei beirniadu gan y gantores Cerys Matthews a Peter Stead, sylfaenydd a Llywydd Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas.
Mae amrywiaeth o farddoniaeth, rhyddiaith a drama ar y rhestr fer, gyda sawl awdur yn tynnu ar Gymru, Lloegr, Iwerddon, Jamaica, America a Seland Newydd am ysbrydoliaeth.
Cyhoeddwyd y newyddion heno gan Cerys Matthews mewn cynhadledd yn Abertawe, tref enedigol Dylan Thomas.
Teitlau rhestr fer 2014:
• Eleanor Catton, The Luminaries (Granta)
• Owen Sheers, Mametz (National Theatre Wales)
• Joshua Ferris, To Rise Again at a Decent Hour (Viking)
• Eimear McBride, A Girl is a Half-Formed Thing (Faber & Faber)
• Kseniya Melnik, Snow in May (Fourth Estate)
• Kei Miller, The Cartographer Tries to Map a Way to Zion (Carcanet Press)
• Naomi Wood, Mrs Hemingway (Picador)
‘Dawn anhygoel’
“Mae’r rhestr yn arbennig o dda eleni, ac rydym wedi denu awduron rhyngwladol ifanc sydd â dawn anhygoel. Mae’r rhestr yn cynnwys gwaith rhyngwladol o bob genre – barddoniaeth, rhyddiaith a drama,” meddai Cerys Matthews.
“Mae’n fraint bod yn rhan o’r panel beirniadu eleni, a hynny ym mlwyddyn canmlwyddiant ers geni Dylan Thomas”.
Ychwanegodd Peter Stead, sylfaenydd a llywydd Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas: “Wrth edrych ar y safon uchel oedd ar y rhestr hir, roeddem ni fel beirniaid yn gwybod y byddai’r broses o ddewis rhestr fer yn un anodd. Yn y diwedd, saith darn rhyfeddol oedd yn sefyll allan i ni.
“Rydym wrth ein boddau bod y rhestr fer yn cynnwys cymaint o amrywiaeth – drama wedi’i hysgrifennu a’i pherfformio yng Nghymru, bardd Caribïaidd daw’n wreiddiol o Glasgow, dau awdur o’r Unol Daleithiau, a nofelau gan awduron o’r Iwerddon, Lloegr, a Seland Newydd.
“Mae sawl cyfrol ar y rhestr fer eisoes wedi eu hanrhydeddu, ac mae hyn yn dangos sut mae Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas wedi ennill ei lle ym myd llenyddiaeth fyd-eang.
Byddwn yn gwahodd saith o awduron gorau’r byd i Abertawe”.