Mae Canolfan Pontio wedi cyhoeddi heddiw y bydd yn rhaid gohirio’r cynhyrchiad cyntaf ‘Chwalfa’ gan Theatr Genedlaethol Cymru  gan nad yw Theatr Bryn Terfel yn barod i groesawu cynulleidfa.

Mae disgwyl i’r cynhyrchiad gael ei ail-drefnu ar gyfer y flwyddyn newydd.

Roedd Chwalfa i fod i gael ei dangos ar 17 Medi. Mae Theatr Bryn Terfel yn rhan o’r ganolfan.

Mewn datganiad, ymddiheurodd cadeirydd Bwrdd Ymgynghorol Celfyddydol Pontio a Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro Jerry Hunter.

Dywedodd: “Rydym yn ymddiheuro yn daer i’n cynulleidfa, y gymuned leol, ein partneriaid, ac yn arbennig Theatr Genedlaethol Cymru ac rydym yn rhannu’r siom.

“Rydym wedi bod yn gweithio’n galed gyda’r contractwr dros y chwe mis diwethaf, mae’r amserlen wedi bod yn dynn, ond roeddem yn credu fod modd agor ar amser. Fodd bynnag heddiw rydym wedi penderfynu na fydd hi’n bosib i ni agor gyda ‘Chwalfa’ fel y gobeithiwyd.”

Ychwanegodd fod trafodaethau gyda’r contractwyr yn parhau er mwyn penderfynu pryd fydd modd agor y theatr.

Bydd gweddill yr adeilad yn agor yn raddol, a’r theatr fydd yn agor gyntaf.

Ychwanegodd Jerry Hunter: “Byddwn yn cyhoeddi dyddiadau newydd ar gyfer Chwalfa ar ddiwedd y mis.”

Bydd pawb sydd wedi prynu tocyn yn derbyn eu harian yn ôl, ac fe fydd modd hawlio taleb gwerth £5 i’w ddefnyddio ar gyfer perfformiadau eraill.

‘Siomedig’

Wrth ymateb i’r newyddion, dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, Arwel Gruffydd: “Rhan ganolog o weledigaeth Theatr Genedlaethol Cymru yw gweithio gyda chymunedau i greu darn o waith theatr pwerus, pwrpasol.

“Mae yna fisoedd o waith paratoi wedi digwydd yn barod, a nifer ohonom, yn artistiaid a gweithwyr theatr proffesiynol yn ogystal â thrigolion yr ardal, wedi gweithio’n ddiwyd ac ymroddedig i greu cynhyrchiad eithriadol.

“Hoffwn ddiolch ar ran y cwmni i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r fenter am eu brwdfrydedd, a’r croeso rydym wedi ei dderbyn.

“Mae’r bwrlwm a’r disgwyliad yn yr ardal wedi bod yn amlwg iawn, ac mae’n siom fawr i ni na fyddwn yn llwyfannu’r cynhyrchiad yn hwyrach y mis hwn; ond rwy’n falch iawn ein bod yn gallu dod yn ôl i roi’r cynhyrchiad ar lwyfan Theatr Bryn Terfel yn y Flwyddyn Newydd.

“Yr hyn sydd yn bwysig i ni yw bod y stori arbennig hon, a’r gwaith caled hwn yn cael gweld golau dydd.”