Mae Ani Glass yn dweud ei bod hi’n teimlo “sioc”, ac nad oes ganddi eiriau i ddisgrifio’r profiad o fod wedi ennill gwobr Albwm y Flwyddyn eleni.

Cafodd ‘Mirores’, ei halbwm cyntaf, ei gyhoeddi fel yr enillydd gan Lisa Gwilym a Huw Stephens ar Radio Cymru 2 fel rhan o ddigwyddiadau AmGen.

Cafodd yr albwm ei ryddhau ar label Recordiau Neb toc cyn i gyfnod clo’r coronafeirws ddechrau.

“Does dim geiriau gyda fi, fi mor hapus,” meddai Ani Glass, enw llwyfan Ani Saunders, wrth golwg360.

“Mae’n gymaint o anrhydedd, a pan ti’n edrych ar yr albyms o’dd wedi cael eu rhoi ar y rhestr fer, heb sôn am y rhai sy’ ddim ar y rhestr fer, fi jyst yn teimlo sioc, a mor hapus.”

Mae’n cyfaddef iddi deimlo’n nerfus wrth gael ei chyfweld ar y radio yn dilyn ei buddugoliaeth.

“Fi wedi gneud cyfweliadau ar y radio o’r blaen ond o’dd hwn lot gwahanol, ac mae’n anodd i ti fynegi dy hunan pan ti mewn cymaint o sioc!”

Ond wedi cael cyfle i ddechrau prosesu ei llwyddiant, mae’n dweud bod y cyfan yn “brofiad hyfryd, profiad ffantastic, a jyst yr ymdrech o’dd pawb o’dd yn rhan ohono fe wedi’i wneud, fi’n teimlo mor ddiolchgar.

“Mae wedi cymryd lot o amser, ond mae wedi bod yn siwrne hir – fi wastod wedi bod eisie creu cyfanwaith – ond mae wedi bod werth e hefyd.”

‘Dod i ddeall Caerdydd eto’

Mae’n disgrifio’r albwm fel mynegiant o ddod adref o Loegr a cheisio deall Caerdydd, dinas ei mebyd, eto.

“Mae lot o elfennau iddo fe,” meddai.

“Fi’n meddwl, yn bennaf, y profiad o ddod nôl gartre’ ar ôl byw yn Lloegr am sawl blwyddyn a jyst gweld y newidiadau o gwmpas Caerdydd.

“Fi’n trio dod i ddeall y lle eto, dod i ddeall ’yn hunan, hunaniaeth a diwylliant a iaith a phopeth.

“Mae’n siwrne o gwmpas Caerdydd, a hefyd yn siwrne i fi yn greadigol hefyd i ddod i nabod ’yn hunan fel person sy’n creu, a fi’n credu bod y synnau a’r caneuon i gyd yn adlewyrch y rhannau gwahanol o’r siwrne yna.”

Yn gerddorol, mae’n dweud bod sawl dylanwad ar ei gwaith, ond ei bod hi wedi ceisio creu albwm “mor agored â phosib yn gerddorol”.

A hithau’n siarad Cymraeg a Chernyweg fel ieithoedd cyntaf, mae’n dweud bod dylanwadau’r ddwy ar ei gwaith hefyd.

“Yn ieithyddol yn fwy nag o ran diwylliant, mae’r ieithoedd wedi cael dylanwad cryf,” meddai.

“Mae un gân Saesneg achos o’n i eisie adlewyrchu ’nghefndir achos mae teulu Dad yn dod o Loegr, ac mae’r profiadau fi’n cofio o fynd i ymweld â nhw tra o’n i’n fach, o’n i’n teimlo bod hwnna’n rhan ohona i ac o’n i eisie cyflwyno hwnna ar yr albym i wneud iddi deimlo’n fwy cyflawn.”

Fersiwn cerddorfa’n “uffernol o swreal”

Pan glywodd hi fersiwn Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC o drac teitl yr albwm, a gafodd ei chreu yn ystod y cyfnod clo dros y we, mae’n dweud iddi deimlo’n “uffernol o swreal”.

“Wnaeth Owain o Band Pres Llareggub greu sgôr ar ei gyfer e, a wnaethon nhw [y Gerddorfa] ddefnyddio stems ffeiliau’r caneuon.

“Uffernol o swreal. Mae’n teimlo fel rhywbeth sydd mor ma’s o afael, mae fel byd arall gyda cherddorfa’n chwarae dy ganeuon di.

“Dyw e ddim wir yn neud synnwyr, yn enwedig o dan yr amodau i greu rhywbeth sy’n swnio mor hyfryd a dyn nhw ddim gyda’i gilydd yn recordio.

“Mae mor glyfar, ac yn anhygoel sut ti’n gallu tynnu rhywbeth fel ’na at ei gilydd.”

Effaith y cyfnod clo

Yn wahanol i’r arfer o fynd allan a gigio i hyrwyddo’r albwm, dau gig yn unig gafodd hi eu gwneud cyn i’r cyfnod clo ddechrau.

Ond mae’n dweud bod y gigs yma wedi rhoi momentwm i’r albwm ar y dechrau.

“Digwydd bod, o’n i wedi rhyddhau e wythnos yn ddiweddarach [na’r lockdown] so o’n i ddim wedi cael cyfle i lansio fe.

“Er mai ond dau gig wnes i, o’dd e wir yn hyfryd gallu rhannu fe mewn setting traddodiadol, mewn gig, a rhannu’r profiad gyda phobol mewn gig cyn y cyfnod clo.

“Mae eitha’ lot o bobol wedi gweud taw dyna o’dd y gig ola’ iddyn nhw fynd iddi cyn i hwn i gyd ddechrau.

“Mae hwnna’n eitha’ peth hefyd fi’n credu, achos mae bron yn cynrychioli cyfnod arall yn ein bywydau ni i gyd, a nawr mae hwn yn sefyllfa newydd.

“Mae wedi bod yn wir ddiddorol.

“Achos bo fi wedi cael cyfle i wneud cwpwl o’r gigs, mae bach mwy o fomentwm wedi bod. Tasen i wedi’i wneud e wythnos yn ddiweddarach, fase llai o fomentwm.

“Mae wir yn rhan fawr o’r profiad i deithio gyda’r albwm, dod i nabod y gynulleidfa a delio gyda mwy o bobol tra bo ti’n teithio a gwneud gigs. Mae’n rhan annatod o greu albym, ac mae’n rhywbeth fi ddim wedi cael o’r blaen ond falle fydda i yn y dyfodol.

“Mae’n wahanol, ac y’n ni i gyd yn mynd trwy’r profiad gyda’n gilydd.”

Beth nesaf?

Yn dilyn ei llwyddiant, mae’n dweud ei bod hi’n bwriadu treulio peth amser yn mwynhau’r profiad cyn symud ymlaen at ei gwaith nesaf.

“Fi’n casglu lot o syniadau, felly fi’n meddwl wna’i jyst eistedd nôl a chymryd mewn y profiad hyn o fod wedi cynhyrchu a chyflwyno albym a’r holl brofiad hyfryd o ennill gwobr,” meddai.

“Wna’i gymryd hwnna i gyd mewn cyn hastu i greu rhywbeth achos fi ddim yn un dda am hastu gwaith creadigol o gwbl, felly fi’n meddwl wna’i barhau i gasglu syniadau yn y gobaith fydd e, ryw ddydd, yn bennu lan fel albym arall.”