Petro Poroshenko
Mae Arlywydd yr Wcráin, Petro Poroshenko, yn dweud ei fod ef ac Arlywydd Rwsia wedi cytuno ar gadoediad parhaol yn nwyrain yr Wcráin.

Fe ddechreuodd y gwrthdaro ffyrnig rhwng lluoedd llywodraeth yr Wcráin a’r gwrthryfelwyr yn Kiev ym mis Ebrill. Mae 2,600 o bobol wedi marw a 340,000 o bobol wedi gorfod ffoi o’u cartrefi ers hynny, yn ôl y Cenhedloedd Unedig.

Mewn datganiad gan swyddfa Petro Poroshenko, dywedwyd: “Canlyniad y drafodaeth oedd bod cytundeb wedi ei gyrraedd o’r ddwy ochr ynglŷn â’r camau fydd yn cael eu cymryd i leddfu’r ymladd.”

Nid oes ymateb wedi dod gan Rwsia hyd yn hyn ond fe ddywedodd llefarydd ar ran Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, yn gynharach fod y ddau arweinydd yn “rhannu gweledigaeth debyg” am ffyrdd i leddfu’r argyfwng.

Mewn cyfarfod gyda Petro Poroshenko wythnos diwethaf dywedodd Vladimir Putin nad oedd cadoediad wedi cael ei drafod gan nad oedd Rwsia wedi bod yn rhan o’r anghydfod.