Y fideo yn dangos Steven Sotloff yn cael ei ladd
Mae’r Ysgrifennydd Tramor, Philip Hammond wedi dweud bod Llywodraeth Prydain yn barod i wneud popeth o fewn ei gallu i amddiffyn gwystl o Brydain sydd wedi cael ei gipio a’i fygwth gan derfysgwyr Islamaidd.

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn cadarnhad gan y Tŷ Gwyn neithiwr mai’r newyddiadurwr Americanaidd Steven Sotloff oedd mewn fideo oedd yn dangos dyn gwyn yn cael ei ladd.

Roedd Steven Sotloff yn hanu o Miami ac roedd yn gweithio fel newyddiadurwr llawrydd ar gyfer amryw o gylchgronau.

Diflannodd yn Syria fis Awst y llynedd.

Daeth y fideo i’r amlwg ddoe, bythefnos wedi i fideo arall ymddangos o James Foley, newyddiadurwr o’r Unol Daleithiau, yn cael ei ladd.

Mae lle i gredu mai’r un terfysgwr – Jihadydd o dras Brydeinig – sy’n gyfrifol am ladd y ddau.

Mewn fideo arall, dywed y terfysgwyr mai’r gwystl o Brydain fydd yr un nesaf i gael ei ladd ganddyn nhw.

Dywedodd Philip Hammond: “Fyddech chi ddim yn disgwyl i fi drafod yr amryw opsiynau y byddwn ni’n eu hystyried ond galla i’ch sicrhau chi y byddwn ni’n edrych ar bob opsiwn i amddiffyn y person hwn.”

Awgrymodd y gallai’r Llywodraeth ymateb drwy gynnal cyrchoedd awyr tros y Dalaith Islamaidd.

Dywedodd y Prif Weinidog David Cameron bod y weithred yn “farbaraidd.”