Aberdaugleddau
Mae Sir Benfro wedi croesawu llong bleser enfawr sy’n cludo 500 o deithwyr o’r Almaen i’r ardal heddiw.
Fe gyrhaeddodd yr MS Astor borthladd Aberdaugleddau am 7 o’r gloch y bore ma.
Hon fydd yr ail o dair llong i ymweld â Sir Benfro o fewn wythnos, ac yn ol Sue Blanchard Williams o Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau mae disgwyl i’r teithwyr wario tua £80 yr un, sy’n gyfanswm o tua £120,000.
“Fe fydd Dirprwy Faer Aberdaugleddau, y Cynghorydd Stephen Joseph, yn croesawu’r teithwyr i’r lan ac adloniant gan gynnwys trip i arddangosfa hen geir ac arddangosfa o adar ysglyfaethus yn eu disgwyl, ” meddai Sue Blanchard Williams.
Mae penaethiaid y diwydiant twristiaeth yn yr ardal wedi darparu bysiau gwennol yn rhad ac am ddim i gludo’r teithwyr i’r atyniadau hyn.
Mae’r ymweliad ag Aberdaugleddau yn rhan o deithiau’r llongau o amgylch Prydain.
Yn dilyn ymweliad yr MS Delphin i borthladd Doc Penfro ddydd Sadwrn diwethaf, mae disgwyl i long yr MV Discovery gyrraedd Aberdaugleddau ddydd Gwener am 8:00 yr hwyr.