Mae corff llywodraethol wedi canfod fod pobol Cymru yn colli tua £163 y flwyddyn trwy gamddeall neu beidio darllen y print mân mewn cytundebau ariannol.

Fe wnaeth y Gwasanaeth Cyngor Ariannol holi 3,000 o bobol ledled Prydain gydag 84% ohonyn nhw’n cyfaddef nad ydyn nhw’n darllen y telerau ac amodau yn llawn wrth arwyddo am gyfrif cynilo, cerdyn credyd, morgais, benthyciad neu gytundeb yswiriant.

Y golled gyfartalog i weddill Prydain oedd £428 ac roedd 452 o bobol o’r farn eu bod wedi colli gymaint â £1,405 y flwyddyn trwy beidio darllen y print mân.

Termau ariannol

Diffyg dealltwriaeth o dermau ariannol “allweddol” sydd ar fai yn ôl y Gwasanaeth Cyngor Ariannol. Dywedodd y corff nad oedd 46% o bobol yn gwybod beth oedd ystyr llog cyfansawdd – sef pan mae llog yn cael ei ennill ar ben y llog sydd yno’n barod.

Doedd 44% o bobol ddim yn deall y term blwydd-dal, sef tal blynyddol mae pobol yn ei dalu hefo’u pensiwn, a bron i 30% ddim yn gwybod ystyr APR, cyfradd canran blynyddol.

Roedd 18% hyd yn oed yn credu nad oes rhaid talu benthyciad yn ôl.

“Mae darllen a deall y telerau ac amodau mewn cytundeb ariannol i’w weld yn rhywbeth diangen ac a fyddai’n cymryd amser hir. Ond os nad ydych chi’n darllen y print mân, fe allwch weld costau ychwanegol a fyddai’n gallu effeithio ar eich sgôr credyd,” meddai ‘r arbenigwr ariannol Jane Symonds.