Tref Bonanza, Nicaragua (o wefan Wikipedia)
Mae 11 o’r 24 o weithwyr sydd wedi bod yn gaeth o dan y ddaear mewn mwynglawdd aur yn Nicaragua wedi cael eu hachub.

Y gobaith y bydd rhagor yn cael eu rhyddhau dros yr oriau nesaf.

Cafodd y mwynwyr eu dal o dan o ddaear ar ôl i dwnel ddymchwel ym mwynglawdd El Comal yn nhref Bonanza, 260 milltir i’r gogledd o’r brifddinas Managua.

Mae cannoedd o deuluoedd a chyd-fwynwyr wedi bod yn gweddïo y tu allan i’r mwynglawdd aur ac arian wrth i achubwyr geisio mynd i mewn iddo ar hyd twnel 200 troedfedd o hyd.