Y Prif Weinidog David Cameron (llun: PA)
Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi cyfaddef ei fod yn bryderus ynghylch canlyniad y refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban.
“Dw i’n teimlo’n emosiynol ac yn nerfus oherwydd ei fod yn fater mor bwysig,” meddai.
Fe wnaeth ei sylwadau ddoe ar ôl i arolwg barn awgrymu bod mantais yr ochr ‘Na’ wedi ei haneru i chwe phwynt.
Roedd yr arolwg i’r Scottish Daily Mail wedi cael ei wneud ar ôl y ddadl deledu nos Lun rhwng Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, ac arweinydd yr ymgyrch Better Together, y cyn-ganghellor Alistair Darling.
Dywedodd David Cameron er hynny ei fod yn credu fod “mwyafrif tawel” o bobl yr Alban o blaid aros yn rhan o Brydain.
Honnodd hefyd fod pobl mewn swyddi cyhoeddus uchel, gan gynnwys is-gangellorion prifysgolion, yn ofni mynegi’r farn honno ar goedd, gan fod arnyn nhw ofn i lywodraeth yr Alban ddial arnyn nhw.
Llai na thair wythnos sydd i fynd tan y bleidlais ar 18 Medi, ac mae’r papurau pleidleisio post eisoes wedi cael eu hanfon allan.