Ashya King (llun heddlu)
Cynyddu mae’r pryderon am fachgen 5 oed sy’n dioddef o diwmor yn yr ymennydd ar ôl i’w rieni ei gipio o’r ysbyty yn groes i gyngor meddygon.

O fewn dwyawr i’w gipio o ysbyty Southampton brynhawn Iau, roedd teulu Ashya King wedi cael eu gweld yn teithio ar fferi i Ffrainc.

Dywed yr heddlu fod ganddyn nhw le cryf i amau y gall y teulu fod yn Sbaen bellach, a bod gan y teulu gysylltiadau agos ag ardal Marbella yn ne’r wlad.

Mae Ashya mewn cadair olwyn ac yn gorfod cael ei fwydo trwy diwb o beiriant pwrpasol.

Meddai Prif Gwnstabl Cynorthwyol Hampshire, Chris Stead:

“Mae’n rhaid cael hyd i Ashya ar frys. Mae’n bwysig iawn ein bod ni’n cael hyd iddo ac yn sicrhau ei bod yn cael sylw meddygol cyn gynted ag sy’n bosibl.

“Mae ei sefyllfa’n ddifrifol iawn, ac rydyn ni’n pwyso ar bawb i’n helpu ni gael hyd iddo.”

Ychwanegodd fod yr heddlu’n cydweithio’n agos â’r awdurdodau yn Sbaen i gael hyd iddo.