Peter Black, Aelod Cynulliad dros Dde-orllewin Cymru
Fe fyddai’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ymestyn y cyfnod tadolaeth mae tadau newydd yn ei gael i ffwrdd o’r gwaith o bythefnos i chwe wythnos, petai’r blaid mewn grym yn San Steffan ar ôl yr etholiad nesaf.
Fe wnaeth y blaid eu cyhoeddiad wrth ryddhau eu maniffesto newydd ddoe.
Wrth groesawu’r cyhoeddiad, dywedodd yr Aelod Cynulliad Peter Black, llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru ar Gydraddoldeb:
“Rwy’n falch fod y Democratiaid Rhyddfrydol yn gwneud yr ymrwymiad pwysig yma. Mae angen system sy’n cydnabod bod pob teulu yn wahanol ac yn cael gwared â’r syniad hen ffasiwn mai’r fam sy’n aros adref gyda’r babi.
“Ac fe fyddai ymestyn cyfnod tadolaeth y tad yn ei gwneud hi’n haws i’r fam ddychwelyd i’r gwaith petai arni eisiau.”
Dywedodd Jo Swinson, llefarydd Busnes y blaid yn San Steffan, y byddai rhannu cyfrifoldebau gofal rhwng rheini yn arwain at fwy o gydraddoldeb yn y gweithlu.