Fe fydd sioe o awyrenau milwrol yn hedfan o amgylch Casnewydd ar ddiwrnod olaf cynhadledd NATO yr wythnos nesaf.
Fe fydd awyrennau Llu Awyr Prydain yn ymuno â rhai NATO ac yn cychwyn hedfan dros Westy’r Celtic Manor, lleoliad y gynhadledd, am 9:00 fore Gwener 5 Medi.
Bydd modd gweld yr awyrennau yn gwibio dros ganol dref Cansewydd am 8:45, a chyn hynny ym Mae Caerdydd am 8:30.
Mae disgwyl i dros 70 o arweinwyr byd gan gynnwys yr Arlywydd Barack Obama, ymgynnull yn y Celtic Manor ar 4 a 5 Medi, i drafod bygythiadau milwrol, gwrthdaro rhanbarthol ac ymosodiadau terfysgol.
Dywedodd Ygrifennydd Cymru Stephen Crabb: “Fe fydd llygaid y byd ar Gasnewydd yr wythnos nesaf ac rydym yn falch o groesawu’r arweinwyr byd yma.
“Mae’r arddagnosfa awyr yn ein hatgoffa o sut mae’r gynhadledd yn rhoi Cymru ar lwyfan rhyngwladol.”