Aberffraw, ar arfordir gorllewinol Môn (llun: Donna Jennens)
Mae’r chwilio wedi ailgychwyn am fachgen 12 oed sydd wedi bod ar goll yn y môr gerllaw Aberffraw ym Môn ers prynhawn ddoe.

Cafodd Gwylwyr  y Glannau Caergybi alwad 999 tua 12.30 amser cinio ddoe yn dweud bod tri o bobl wedi cael eu dal yn gaeth ar greigiau yn y foryd.

Mae’n ymddangos bod dau ddyn a bachgen ifanc wedi llwyddo i gerdded yn ôl i’r lan, ond bod bachgen arall wedi cael ei ddal yn y tonnau mawr a’i ysgubo allan i’r môr.

Er chwilio amdano am oriau dros ardal eang ddoe, methiant fu pob ymgais gan dimau achub Gwylwyr y Glannau lleol, badau achub Porthdinllaen, Caergybi a Threarddur, hofrennydd Awyrlu’r Fali a Heddlu Gogledd Cymru i gael hyd iddo.

Roedd tonnau garw’n gwneud tasg yr achubwyr yn hynod anodd a bu’n rhaid gohirio’r chwilio dros nos.