Mae ymdrechion wedi dechrau i geisio achub o leiaf 25 o gloddwyr aur ar safle yng ngogledd Nicaragua.

Dywedodd awdurdodau’r wlad fod lleisiau wedi cael eu clywed o dan y ddaear yn El Comal yn nhref Bonanza.

Mae’r achubwyr yn cloddio twnelau i mewn i’r safle er mwyn cyrraedd y gweithwyr.

Doedd yr awdurdodau ddim yn ymwybodol o’r digwyddiad tan neithiwr pan gollon nhw gysylltiad â’r gweithwyr.

Mae lle i gredu eu bod nhw oddeutu 50 troedfedd o dan y wyneb.