Mae ditectifs wedi arestio dwy o ferched a bachgen mewn cysylltiad gyda marwolaeth dyn a gafodd ei gludo i’r ysbyty mewn hofrennydd gydag anaf difrifol i’w ben.

Mae Heddlu Swydd Lincoln wedi cadarnhau fod y sawl gafodd ei ladd, 42 oed, wedi marw yn gynnar heddiw, ar ôl cael ei ganfod wedi’i anafu yn Spalding ddoe.

Mae’r farwolaeth yn cael ei hystyried fel llofruddiaeth, ac mae swyddogion wedi arestio dwy ferch ac un bachgen. Dyw eu henwau na’u hoedrannau ddim wedi’u rhyddhau.

Fe gafarnhaodd llefarydd ar ran yr heddlu hefyd fod y dioddefwr wedi marw yng Nghanolfan Feddygol Queen’s yn Nottingham.

“Mae ardal Coronation Close lle digwyddodd hyn yn ardal glos iawn, ac fe fydd nifer o bobol yn cael eu heffeithio gan hyn,” meddai’r llefarydd wedyn.