Theresa May - "am amddiffyn pobol gwledydd Prydain"
Mae Ysgrifennydd Cartref San Steffan, Theresa May wedi cyhoeddi bod y bygythiad o ymosodiad terfysgol yn y DU wedi codi o “sylweddol” i “ddifrifol”.
Yn ôl y raddfa, mae’n golygu bod ymosodiad terfysgol yn “debygol iawn”, ond mae’r Ysgrifennydd Cartref wedi dweud nad oes tystiolaeth i awgrymu bod ymosodiad ar fin digwydd.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref fod y sefyllfa yn Irac a Syria yn peri pryder i wledydd y Gorllewin.
Rheswm posib arall am y newid yw’r ffaith fod Uwch Gynhadledd NATO yn cael ei chynnal yng Nghasnewydd yr wythnos nesaf.
Daw’r cyhoeddiad diweddaraf yn dilyn llofruddiaeth y newyddiadurwr Americanaidd, James Foley a llif o wrthryfelwyr Jihadaidd i Irac a Syria.
Ychwanegodd Theresa May mai blaenoriaeth Llywodraeth Prydain yw amddiffyn pobol o wledydd Prydain.