Mae’r rhyfel cartref yn Syria wedi gorfodi 3 miliwn o bobol allan o’r wlad – ac mae dros filiwn o’r rheiny wedi gadael o fewn y flwyddyn ddiwetha’.

Mae’n golygu fod tua un o bob wyth o bobol Syria wedi dianc o’i wlad ei hun dros y ffin, ac mae 6.5 miliwn arall wedi cael eu gorfodi o’u cartrefi oddi mewn i’r wlad ers i’r rhyfel ddechrau ym mis Mawrth, 2011.

Mae dros hanner y rheiny sydd wedi’u heffeithio yn blant.

Cyn y rhyfel, roedd 23 miliwn o bobol yn byw yn Syria.