Fe all dros 20,000 o bobol gael eu heintio gan Ebola yng ngorllewin Affrica – mwy na chwe gwaith y lefel bresennol, yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd (WHO).

Mae ymchwil newydd gan asiantaeth iechyd y Cenhedloedd Unedig hefyd yn tybio bod nifer yr achosion rhwng dau a phedair gwaith yn fwy mewn rhai llefydd na beth sy’n cael ei adrodd.

Mae’r asiantaeth wedi cyhoeddi ffigyrau newydd sy’n dweud bod 1,552 o bobol wedi marw o Ebola o’r 3,068 o bobol sydd wedi eu heffeithio yn swyddogol hyd yn hyn.