Mae cyn-lysgennad y Deyrnas Unedig i Uzbekistan wedi galw ar Albanwyr i bleidleisio ‘Ie’ er mwyn ffarwelio â gwleidyddiaeth ‘drewllyd’ Prydain.

Bu Craig Murray’n ddiplomydd Prydeinig am ugain mlynedd ac yn llysgennad yn Uzbekistan tan 2004.

Roedd yn un o’r siaradwyr mewn digwyddiad ‘English Scots For Yes’ yr wythnos hon, ac fe ddywedodd fod rhai o’r pethau a welodd tra’n gweithio fel diplomydd wedi’i syfrdanu.

“Roeddwn i wastad yn falch o fod yn Brydeiniwr,” meddai Murray.

“Dim ond chwe mis ar ôl i mi [fynd i Uzbekistan] y sylweddolais ein bod ni a’r Americanwyr yn symud pobl i gael eu harteithio, rhai’n cael eu harteithio i farwolaeth.

“Dyna pryd newidiodd fy mydolwg.”

Irac ac Afghanistan

Fe fynnodd hefyd fod gwleidyddion a diplomyddion Prydain yn gwybod yn iawn nad oedd gan Saddam Hussein arfau cemegol peryglus pan benderfynwyd anfon milwyr i Irac.

“Fel diplomydd fe welais i’r holl memos aeth at y penderfyniad yna [ i fynd i Irac],” meddai Murray.

“Roeddwn i’n arfer bod yn bennaeth ar uned y Swyddfa Dramor oedd yn monitro arfau peryglus Irac, ac fe alla’i ddweud yn bendant eu bod yn gwybod nad oedden nhw yno … nid camgymeriad oedd e, ond celwydd.”

Fe ddywedodd hefyd mai prif gymhelliant Prydain a’r Americanwyr dros fynd i Afghanistan yn 2001 oedd sicrhau llwybr i bibelli olew o Uzbekistan lawr i Fôr India.

“Rwyf wedi gweld pethau o’r tu mewn, ac mae bron wastad i’w wneud â rheoli adnoddau,” meddai.
“Mae’n amhosib bod yn falch o’r Deyrnas Unedig.”

Y system yn ‘drewi’

Wrth annerch cynulleidfa’r cyfarfod, fe ddywedodd fod unrhyw Albanwyr yn pleidleisio ‘Na’ ar 18 Medi yn parhau i roi cefnogaeth i system wleidyddol lwgr.

“Mae’r system yn drewi, mae San Steffan yn drewi,” meddai Craig Murray.

“Mae llywodraeth San Steffan yn anfoesol tu hwnt, does dim ots ganddyn nhw faint o bobl maen nhw’n eu lladd dramor os yw o fudd iddyn nhw.

“Mae unrhyw un sy’n pleidleisio ‘Na’ yn pleidleisio … dros wladwriaeth sydd yn fodlon mynd i ryfel er mwyn gwneud ychydig o bobl yn gyfoethocach.”

Gallwch wrando i ragor o sylwadau Craig Murray ar y fideo isod: