Carwyn Jones
Fe fydd Carwyn Jones a Stephen Crabb yn cynnal derbyniad heddiw i ddangos y “gorau o fyd busnes, addysg a thwristiaeth” yng Nghymru ar drothwy cynhadledd Nato.

Mae disgwyl i 200 o westeion gael eu croesawu gan Brif Weinidog ac Ysgrifennydd Cymru gan gynnwys cynrychiolwyr busnesau, diwydiannau creadigol Cymru a chyfryngau tramor yn y Swyddfa Dramor yn Llundain.

Caiff y gwesteion gyfle i weld delweddau’r ymgyrch ‘Wales is GREAT’ a sut mae’r ddwy lywodraeth ym Mae Caerdydd a San Steffan yn hyrwyddo’r wlad.
Fe fydd cynnyrch o Gymru hefyd yn cael eu harddangos, gan gynnwys gwin o Winllan White Castle yn Sir Fynwy, a sudd afal o Welsh Farmhouse yng Nghrughywel. Cymdeithas Goginiol Cymru fydd yn darparu’r bwyd.
“Dyma gyfle i ni ddangos pam mae Cymru’n wlad cystal i ymweld ag i fasnachu â hi ac i fuddsoddi ac astudio ynddi,” meddai’r Prif Weinidog, Carwyn Jones. “Ry’n ni’n manteisio ar bob cyfle i hyrwyddo Cymru ac i ganu’n clodydd dramor. Mae Uwchgynhadledd Nato yn gyfle rhagorol i ni wneud hynny.
“Ry’n ni newydd gyhoeddi’r ffigurau gorau erioed ers i ni ddechrau cadw cofnodion 30 mlynedd yn ôl am fusnesau tramor sy’n buddsoddi yng Nghymru, gan greu a diogelu mwy na 10,000 o swyddi.

“Ac mae’r ffigurau allforio diweddaraf yn dangos mai Cymru o bedair gwlad Prydain welodd y cynnydd mwyaf yn ei hallforion.”

Yn ôl yr Ysgrifennydd Gwladol, Stephen Crabb, mae “cyfleoedd aruthrol” yng Nghymru ar gyfer twristiaeth, addysg a buddsoddi mewn busnesau.
“Mae gennym enw da trwy’r byd am weithgynhyrchu, arloesi, gwyddorau bywyd, seiber-dechnolegau ac awyrofod ac rydym yn mentro i farchnadoedd newydd bob blwyddyn,” meddai.
“Diolch i Uwchgynhadledd Nato, mae mwy o lygaid y byd ar Gymru nawr nag a fu erioed o’r blaen. Mae’n gyfle unwaith mewn oes i ddangos i’r byd y gorau sydd gennym. Mae heddiw’n enghraifft ohonom yn gweithio i sicrhau bod Cymru’n medi’r gorau posibl o’r uwchgynhadledd.”

Mae’r derbyniad hefyd yn dod diwrnod o flaen “Diwrnod Cymru”, ymgyrch undydd gan gyfryngau digidol y DU, llysgenadaethau, cenhadon ac uwch gomisiynau ar 1 Medi i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan ar gyfer twristiaeth a busnes cyn Uwchgynhadledd NATO ar 4 a 5 Medi.