Douglas Carswell (llun: Steve Punter CCA 2.0)
Mae’r Aelod Seneddol Douglas Carswell wedi cyhoeddi’i fod yn gadael y blaid Geidwadol a symud i UKIP.
Carswell fydd yr Aelod Seneddol cyntaf dros blaid UKIP, a enillodd etholiadau Ewrop eleni ond sydd heb yr un gwleidydd yn San Steffan hyd yn hyn.
Fe gyhoeddodd yr Aelod Seneddol dros Clacton yn Essex y byddai’n sefyll lawr fel AS, ac yn cynrychioli UKIP yn yr isetholiad i ddod.
Yn etholiad 2010 fe enillodd fwyafrif o 12,068 yn yr etholaeth, gan gipio 53% o’r bleidlais, gyda Llafur yn ail yno.
Mae sôn wedi bod ers misoedd bod rhai o Aelodau Seneddol mwyaf asgell dde’r blaid Geidwadol wedi bod yn ystyried symud draw i UKIP, yn bennaf oherwydd nad ydyn nhw eisiau i Brydain barhau’n rhan o’r Undeb Ewropeaidd.
Carswell yw’r cyntaf i wneud hynny, ac fe ddywedodd heddiw ei fod yn credu y “bydd rhai ohonynt yn dod gyda mi”.
“Dydw i ddim yn gwrthwynebu mewnfudo,” meddai Douglas Carswell heddiw. “Ond fel Awstralia a’r Swistir, mae’n rhaid i ni groesawu’r rheiny sydd am gyfrannu.”
Dywedodd fod yn “rhaid i ni newid ein perthynas ag Ewrop”, gan ddweud nad oedd yn hyderus fod llywodraeth David Cameron yn bwriadu newid rhyw lawer.
‘Anffodus’
Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi dweud bod penderfyniad Douglas Carswell yn “hynod anffodus” ac yn “wrthgynhyrchiol.”
Dywedodd Aelod Seneddol Ewrop Ukip yng Nghymru, Nathan Gill: “Ry’n ni’n hapus iawn i groesawu Douglas i blaid Ukip oherwydd, ar ddiwedd y dydd, ry’n ni’n blaid o’r Deyrnas Unedig – dy’n ni’n ddim yn poeni beth yw cefndir gwleidyddol pobol i bob pwrpas, cyn belled â’u bod nhw yn credu yn yr un pethau a ni a’u bod nhw’n sefyll fyny dros Brydain. Dw i’n siŵr y gwnaiff Douglas hynny.”