Yr Arlywydd Petro Poroshenko
Mae Arlywydd yr Wcráin wedi diddymu’r Senedd ac yn galw am etholiadau cynnar ym mis Hydref wrth i’r wlad barhau i frwydro yn erbyn gwrthryfelwyr sy’n gefnogol i Rwsia.
Fe gyhoeddodd yr Arlywydd Petro Poroshenko mewn datganiad ar ei wefan ei fod wedi diddymu’r Senedd ac mae’n galw am etholiadau ar 26 Hydref.
Dywedodd bod y Glymblaid yn y wlad wedi methu wythnosau yn ôl.
Daw’r cyhoeddiad wrth i’r Arlywydd Petro Poroshenko ac Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, drafod yr Wcrain mewn uwch-gynhadledd yn Belarus heddiw. Y bwriad yw ceisio rhoi pwysau ar yr Wcrain i gynnal trafodaethau i ddod a’r anghydfod i ben yn hytrach na cheisio hawlio buddugoliaeth filwrol.
Dros y mis diwethaf, mae lluoedd yr Wcrain wedi ail-feddiannu nifer o drefi a dinasoedd a oedd wedi bod dan reolaeth y gwrthryfelwyr ers mis Ebrill ond mae ’na bryder am nifer y bobl gyffredin sydd wedi eu lladd yn y gwrthdaro.
Yn ôl adroddiadau mae oddeutu 2,000 o bobl wedi’u lladd ac o leiaf 726 o filwyr yr Wcrain.