Mae tri phlismon wedi marw wedi i’r hofrennydd achub yr oedden nhw’n teithio ynddi daro yn erbyn mynydd a syrthio i’r ddaear yng ngogledd Sbaen.

Fe ddigwyddodd y ddamwain wedi i’r tim achub ollwng pedwerydd aelod i lawr i’r ddaear gyda winsh er mwyn helpu mynyddwr oedd wedi anafu. Chafodd neb ar y ddaear ei anafu yn y ddamwain a ddigwyddodd ger Polinosa, 270 milltir i’r gogledd o Madrid.

Mae’r pedwerydd plismon wedi siarad am y modd y gwelodd lafnau’r hofrennydd yn clipio ochr y mynydd, cyn plymio i’r ddaear.

Mae pedair hofrennydd achub arall wedi cael eu galw i’r safle.